
Gwaith Saer
Yn ein gweithdy gwaith coed gallwch ddod â phrosiectau o gartref neu ddysgu rhywbeth newydd. O droi pren i wneud offerynnau cerdd, o uwchgylchu dodrefn i drwsio’r hen gadair honno, mae ein technegydd gweithdy, Harry, yma i helpu. Mae defnydd o’r gweithdy gwaith coed ar gael am gyfraniad gwirfoddol o £5 hanner diwrnod, £10 trwy’r dydd, ynghyd â chost deunyddiau.